📢Galw Ffermwyr yng Nghymru📢
Mae
@Gw3n_Jenkins yn y 3ydd blwyddyn o’r cwrs PhD ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei phrosiect yn cael ei gyllido gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn canolbwyntio ar strategaethau busnes a gweithgaredd ffermydd Cymru yn sgîl newidiadau a heriau ar y diwydiant.
Cam nesaf yr ymchwil ar gyfer y prosiect yw holiadur byr ar gyfer ffermwyr ledled Cymru sy’n edrych ar elfennau gwahanol o’u busnes.
Os ydych chi yn ffermio yng Nghymru a gydag ychydig o funudau i sbario, plîs allwch chi lenwi’r holiadur? Ac os ydych yn gwybod o unrhyw ffermwyr byddai yn awyddus i gyfrannu tuag at yr ymchwil, plîs rhannwch y ddolen gyda nhw!
📢 Mae yna gyfle i chi ennill taleb Amazon gwerth £50! 📢
‼️ Dyddiad cau: 31ain Ionawr 2025 ‼️
Rhaid i gyfranogwyr fod yn 18 blwydd oed neu’n hŷn, ac mae’r holiadur yn hollol anhysbys.
Dolen Cymraeg:
gwenllian-j.limesurvey.net/9…
Dolen Saesneg:
gwenllian-j.limesurvey.net/9…
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, ebostiwch: gwj28@aber.ac.uk
🐄🚜🐏☘️