Am ddiwrnod o bêl-droed @ Bro Myrddin! ⚽☀️
Llongyfarchiadau mawr bois bl8 am eu hymdrech wych yn y twrnamaint heddiw!
Diolch enfawr i staff a blwyddyn 12/13 @YGGBM am drefnu twrnamaint mor wych.
Da iawn bois – rhagorol🙌
🏏Llongyfarchiadau i’n tîm criced Blwyddyn 7 ar eu perfformiad gwych heddiw – buddugoliaeth haeddiannol! Diolch mawr @DyffrynTafSport am y gêm – braf gweld ysbryd chwaraeon mor gadarnhaol ar y cae. 👏
Gêm Griced! 🏏☀️
Mae tîm criced Blwyddyn 7 yn barod am eu gêm nesaf yfory yn erbyn Dyffryn Taf. Edrychwn ymlaen at y gystadleuaeth! Pob lwc i’r garfan – ewch amdani! 💪👏
Gem wych heddiw i’n Blwyddyn 9 yn erbyn ein ffrindiau @AddGorffYBD — wedi’i chwarae mewn ysbryd arbennig ac wedi’i fwynhau gan bawb. 👏
Llongyfarchiadau mawr i’r capten Ifan Davies a ymddeolodd ar 50. Perfformiad tîm rhagorol! 💪🏏
Da iawn Blwyddyn 7! 👏
Perfformiad gwych yn eu gêm gyfeillgar gyntaf heddiw yn erbyn tîm talentog ac eithriadol @Dyffrynamanpe Roedd yn her go iawn, ond dangosodd ein chwaraewyr ymdrech, brwdfrydedd ac ysbryd gwych. Llawer i fod yn falch ohono – dyfodol addawol iawn! #fiywmaes
Diwrnod Mawr i Flwyddyn 7! Mae tîm Blwyddyn 7 yn barod am eu gêm gyfeillgar gyntaf heddiw @Dyffrynamanpe ! Dymuniadau gorau pawb– ewch amdani, rhowch eich gorau, a chofiwch fwynhau'r profiad!
⚽️🏴 Tîm a threfniadau ar gyfer FFEINAL CWPAN CYMRU PÊL-DROED MERCHED DAN 13 yn erbyn Stanwell Dydd Sadwrn 10fed o Fai. Pob lwc ! Ni yn ysgol ac adran prowd!⚽️🏴
Cyfarfod Tîm/Cit - Lawr i'r Adran AG am 8:45yb, 8fed o Fai.
Ymarfer - Gwers 5 - 2:30yp-3:30yp 8fed o Fai.
⚽️ Capten Cymru o dan 14!
Llongyfarchiadau enfawr i Noah Anyadike a gynrychiolodd dîm @WelshSchoolsFA U14 heddiw mewn gêm ryngwladol yn erbyn @isfafootbal 🌍
Mae ei ymroddiad, ei waith caled, a’i dalent yn ysbrydoliaeth.👏💪
Dal ati i ddisgleirio, Noah – dyma’r dechrau’n unig!
🏏 Ymdrech wych gan dîm criced Blwyddyn 8 heddiw yn eu gêm agoriadol y tymor yn erbyn @Dyffrynamanpe ! Llawer o bethau cadarnhaol i’w gymryd ymlaen a digon i adeiladu arno. Diolch yn fawr i YDA am y gêm gystadleuol a chroesawgar. Da iawn bois👏🙌
Croeso adref i Noah Anydadike! Wedi cynrychioli Cymru dan 15 yn yr Eidal – mae'n bleser gweld un o'n chwaraewyr talentog yn tyfu ar y llwyfan rhyngwladol. Rydym yn browd iawn ohonot, Noah! 👏💪
🏏 Diwrnod y gêm! Mae ein tîm Criced Blwyddyn 8 yn barod am eu gêm gyntaf o’r tymor heddiw yn erbyn ein ffrindiau @Dyffrynamanpe Pob lwc i bawb — ewch amdani bois! 💪🔥
Mae ymarferion rownderi'n dechrau wythnos yma. Gweler trefniadau wythnosol isod:
Dydd Mawrth, 3.30 - 4.30yp - Merched 9 a 10
Dydd Iau, 3.30 - 4.30yp - Merched 7 ac 8.
🎥 Uchafbwyntiau’r Ŵyl – Diwrnod i’w Gofio!
O gario cadarn i daclau cryf i geisiadau tîm – roddodd y bois bopeth heddiw 💪Dyma uchafbwyntiau gorau diwrnod llawn egni, ymdrech ac ysbryd tîm.
Rydyn ni’n prowd o bawb 👏
🇵🇹🏉Eiliad wefreiddiol wrth i’n bois sefyll ochr yn ochr heddiw — gyda stadium eiconig Sporting Lisbon yn y cefndir. Mae’r daith hon wedi bod yn fwy na dim ond rygbi. Mae’n ymwneud â thyfu, bod yn dîm, a chynrychioli rhywbeth mwy. Atgofion arbennig gyda thîm arbennig. #fiywmaes
Diweddglo perffaith! 🏉☀️
Diwrnod gwych yn yr ŵyl heddiw gyda pherfformiadau gwych a buddugoliaethau yn ein gemau olaf.
Mae’r bois wedi ennill eu hoe – a does dim gwell ffordd i ddathlu na neidio i'r pwll nofio! 💦
Yn teithio adref 'fory ar ôl dyddiau anhygoel yn Lisbon.😎
Galwad fore gan y blaenwyr! ☕Llongyfarchiadau i’n “dyfarnwyr” – ar pwynt bore ma 👏
Cafwyd galwad ystafell wedi’i threfnu gan y bois rheng flaen – yn effro, yn barod ac yn llawn egni ar gyfer brecwast 💪
Lefelau egni: uchel. Safonau'r daith: cadarn. Lisbon 🇵🇹