Dyfal donc a dyrr y garreg!
Newydd orffen sgwennu'r llyfr hwn o'r diwedd.
Wedi bron i ddwy flynedd o waith arno.
Bydd yn cael ei ddanfon at y cyhoeddwyr
Rowanvale Books, Caerdydd yfory.
Bu bron i'r tren ddod oddi ar y cledrau'n llwyr
ar ffurf "writer's block" barodd am dri mis eleni.
Pan ron i'n teimlo mod i'n cerdded
trwy driog.
A methu symud ymlaen o gwbwl.
Ond helpodd y ferch, Tesni Haf, imi ei weld yn hytrach fel "Waiting Block".
Cymryd hoe oddi wrtho a disgwyl y
byddai'r geiriau yn dychwelyd.
Ac mi ddaethon nhw nol ar ol y Cyhydnos ar Fawrth 20.
Fyth ers hynny, mae'r llif geiriol
wedi bod yn ddi-ddiwedd!
A mis wedyn, mae'r cwbwl wedi ei orffen.
Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi un ai diwedd eleni....
neu ddechrau 2027.🙌